Tai yn Gyntaf Abertawe

Abertawe

01792957910

Mae Abertawe yn Gyntaf yn darparu tai a chefnogaeth i unrhyw un dros 18 oed, sy’n profi digartrefedd a chysgu ar y stryd

Mae’r tîm Tai yn Gyntaf yn gweithio’n agos gyda landlordiaid a’r awdurdod lleol i helpu pobl i ddod o hyd i gartref parhaol yn gyfly – yn hytrach na chwilio am atebion dros dro (fel lle mewn hostel).

Caiff cymorth parhaol ei roi ar waith wedyn i’w helpu i ymgartrefu a chynnal a chadw eu cartref newydd.

Mae’r prosiect yn rhoi cymorth dwys i fynd i’r afael â materion ehangach fel:

  • Cyllidebu
  • Budd-daliadau
  • Cyflogaeth
  • Iechyd meddwl
  • Camddefnyddio sylweddau
  • A beth bynnag arall sydd ei angen arnoch chi

Dylai’r cymorth fod yn seiliedig ar gryfderau’r unigolyn yn hytrach nag ar ei broblemau, gyda gwasanaethau’n mynd ati’n rhagweithiol i annog ymgysylltiad mewn meysydd eraill.

Mae cyfres o egwyddorion craidd ar gyfer Tai yn Gyntaf:

  • Mae cael cartref yn hawl ddynol
  • Dylai fod gan ddefnyddwyr y gwasanaeth ddewis a rheolaeth
  • Nid yw cael cartref yn amodol ar gymorth neu driniaeth
  • Cymorth sy’n canolbwyntio ar adfer
  • Cymorth sy’n canolbwyntio ar leihau niwed
  • Ymgysylltu heb orfodi
  • Cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Mae cymorth hyblyg ar gael, cyhyd ag y bo angen

Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau gan asiantaethau eraill.

Mae Tai yn Gyntaf Abertawe yn bartneriaeth rhwng y Wallich, Kaleidoscope a Chyngor Abertawe.