Rhaglen Wirfoddoli Preswylwyr a Defnyddwyr Gwasanaethau (RSVP)
Caerdydd a'r Fro
jessica.symons@thewallich.net
02920668464
Mae Rhaglen Wirfoddoli Preswylwyr a Defnyddwyr Gwasanaethau (RSVP) yn gynllun gwirfoddoli sydd wedi’i gefnogi ac sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer preswylwyr a defnyddwyr gwasanaethau The Wallich
Mae RSVP yn cynnig cyfleoedd ymarferol, strwythuredig, a hwyliog i wneud y canlynol:
- Datblygu sgiliau a diddordebau newydd a phresennol
- Cyfarfod â phobl newydd
- Gwella hyder
- Rhannu sgiliau a phrofiadau â phobl eraill
- Bod yn rhan o dîm
- Teimlo’n rhan werthfawr o’r gymuned

Mae amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli mewn nifer o feysydd fel garddio, cynnal a chadw, mentora cyfoedion, ymgyfeillio a chymryd rhan mewn gweithdai gwella sgiliau.
Rydym ni’n cefnogi ac yn meithrin anghenion a diddordebau cleientiaid i ganfod lleoliad gwirfoddoli priodol sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u huchelgeisiau unigol.

Gall gwirfoddoli fod yn gam cyntaf, a phwysicaf, i bobl symud ymlaen â’u bywydau.
Yn y pen draw, rydym ni am helpu pobl i gynyddu eu sgiliau a’u hyder er mwyn gallu gwneud cais am swydd, ei hennill a’i chadw ynghyd â theimlo’n barod i fyw’n annibynnol.