Derwyn Newydd

Caerfyrddin

01269 830900

Mae Prosiect Derwen Newydd y Wallich yn darparu cymorth i bobl ddigartref a phobl a allai fod yn ddigartref sy’n 18 oed neu fwy

Bwriad y prosiect yw cynnig llety i rai oedd yn arfer defnyddio sylweddau sydd wedi cwblhau rhaglen driniaeth gymunedol neu breswyl benodol yn llwyddiannus ac sy’n awyddus i gynnal ff ordd o fyw heb ddibynnu ar sylweddau.

  • Mae’r prosiect yn cynnig cartref diogel a sefydlog gyda chymorth 24 awr
  • Mae’n helpu preswylwyr i ddal ati i ymwrthod â sylweddau, datblygu sgiliau bywyd a sgiliau byw’n annibynnol
  • Mae’n helpu preswylwyr i gael mynediad at hyfforddiant, addysg, cyfleoedd i wirfoddoli a gwaith
  • Mae’n cynnig cymorth gyda budd-daliadau a rheoli arian
  • Mae’n helpu preswylwyr i gael hyd i lety addas, mwy parhaol
  • Mae’n helpu preswylwyr i ail-sefydlu cysylltiadau gyda theulu a chyfeillion
  • Mae’n cynnwys preswylwyr mewn gweithgareddau cymunedol
  • Mae’n darparu amgylchedd cynhwysol trwy ymgynghori rhwng staff / cleientiaid
  • Mae’n helpu preswylwyr i gael mynediad at gyngor a chymorth gan asiantaethau eraill

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw asiantaeth leol gydnabyddedig ym maes Camddefnyddio Sylweddau.