Telerau ac Amodau

Ni allai rhoi rhodd testun i The Wallich fod yn symlach

Anfon neges destun i gyfrannu

Mae anfon neges destun i gyfrannu yn ffordd gyflym a hawdd i gefnogi’r Wallich.

Os ydych chi eisoes wedi anfon cyfraniad, diolch yn fawr iawn i chi – bydd eich cefnogaeth yn ein helpu ni barhau i gyflawni gwasanaethau digartrefedd o ansawdd uchel i bobl drwy Gymru.

Telerau ac Amodau

Gwasanaeth cyfrannu at elusen ar gyfer y Wallich yw hwn.

Mae neges destun yn costio £4.  Bydd y Wallich yn derbyn 100% o’ch cyfraniad.  Dylech chi gael caniatâd y sawl sy’n talu’r bil cyn tanysgrifio.  Gwasanaeth tanysgrifio yw hwn, bydd yn costio £4 y mis nes i chi ateb y neges rad ac am ddim gyda neges destun “STOP”.

Byddwch chi’n derbyn cadarnhad o’ch tanysgrifiad mewn 24 awr.  Bydd nodyn atgoffa misol rhad ac am ddim yn cael ei anfon cyn casglu’r cyfraniad, a fydd yn eich darparu gyda manylion ynglŷn â sut i ‘FETHU’ taliad.  Bob tri mis, bydd y neges hon hefyd yn eich atgoffa chi sut i ‘STOPIO’R’ tanysgrifiad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch rhodd, cysylltwch dros y ffôn ar 029 2066 8464 os gwelwch yn dda.

Bydd eich data yn cael ei drin yn unol â GDPR.  Byddwn yn storio eich manylion personol yn ddiogel ac ni fyddwn byth yn gwerthu eich manylion personol i sefydliad arall.