Mae gan bawb yr hawl i gartref lle gallan nhw deimlo’n ddiogel a hapus.
Mae Sophie yn gweithio fel Rheolwr Ardal ers 2016 ac mae’n gyfrifol am Ogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae’n goruchwylio portffolio eang o brosiectau yn The Wallich, yn cynnwys; hosteli, cymorth fel y bo’r angen, a gwasanaethau galw heibio i bobl gydag amrywiaeth o anghenion cymhleth, prosiectau arbenigol fel gwasanaethau cyfryngu a chysgu allan ac mae’n gofalu am brosiect cyntaf Tai yn Gyntaf yng Nghymru (sydd yn Ynys Môn).
Mae Sophie wedi datblygu perthynas gadarn gydag awdurdodau cyhoeddus a darparwyr trydydd sector. Mae wedi gallu defnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad o’r sectorau Digartrefedd a Chefnogi Pobl i hybu gwasanaethau yn ei rhanbarth.
Cyn hyn, bu Sophie yn rheoli prosiectau The Wallich yn Sir Ddinbych rhwng 2010 a 2013 cyn gweithio I Gyngor Sir Ddinbych lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu a chomisiynu prosiectau Cefnogi Pobl.
Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys datblygu, comisiynu a sicrhau arian cyfalaf ar gyfer hostel newydd a phrosiect gwely brys yn y Rhyl, yn dilyn ‘Dyfarniad Ynys Môn’ oedd yn golygu bod lloches Nos y Rhyl mewn perygl o gau.
Rwy’n teimlo’n angerddol dros helpu pobl sy’n fregus ac yn aml ar gyrion cymdeithas, i gael eu cartref eu hunain a chyflawni eu potensial.