Yn anffodus mae ein cymdeithas yn mesur llwyddiant pobl wrth yr arian y maen nhw’n ei ennill, yn hytrach na’r gwaith da a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud. Hoffwn feddwl fy mod yn gwneud fy rhan i helpu fel y mae pob aelod o staff The Wallich yn ei wneud. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl
Yn ei swydd bresennol mae Gareth yn gweithio gyda nifer o bobl arbennig ar brosiectau arloesol, drwy Dde Ddwyrain Cymru.
Mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys rhai o’n Timau Ymyrraeth ar gyfer Rhai sy’n Cysgu Allan, llety â chymorth, gwasanaethau galw heibio a mwy. Mae’r holl staff yn ei ardal yn gweithio tuag at sicrhau canlyniadau cadarnhaol i rai o bobl fwyaf bregus Cymru.
Yn wreiddiol ymunodd Gareth â The Wallich yn 1997 fel gwirfoddolwr cyn cael swydd dros dro fel gweithiwr prosiect yng Nghaerdydd – yn darparu’r gwasanaeth brecwast cyntaf erioed i rai oedd yn cysgu allan yng Nghaerdydd. Meddai “Mae’n dal i fod yn un o’r swyddi gorau i mi ei gwneud erioed”
Yn sgil ei swydd dros dro gyda The Wallich, cafodd Gareth brofiad helaeth yn Llamau fel gweithiwr bond a chyngor, arweinydd tîm ac yna fel rheolwr ardal – yn goruchwylio ystod eang o brosiectau pobl ifanc yn cynnwys: cyngor, gwasanaeth cyfryngu i deuluoedd, estyn allan pendant, llety â chymorth a phrosiectau llety â chymorth.
Ar ôl treulio 18 mlynedd yn gweithio gyda phobl ifanc ac o ystyried y cynnydd amlwg mewn ffigyrau digartrefedd drwy Gymru, cam naturiol i Gareth oedd dychwelyd i weithio gyda The Wallich, i fod yn rheolwr ardal ar gyfer prif elusen Cymru i’r digartref.