Cyn gweithio yn The Wallich, fydden i ddim wedi dychmygu y byddwn i’n cwrdd â grŵp mor amrywiol a hyfryd o bobl â’r rheini rydyn ni’n eu cefnogi.
Yn ei swydd bresennol fel Pennaeth Datblygu Sefydliadol, mae Tom yn gyfrifol am gyllido, perfformiad, systemau AD a rheoli gwybodaeth yn The Wallich.
Dechreuodd Tom ei yrfa yn The Wallich fel gweithiwr prosiect yng Ngheredigion, ar gontract mamolaeth naw mis i ddechrau.
Mae ganddo hefyd brofiad yn nhîm gwirfoddoli The Wallich, gyda’n prosiect CHT ac yn yr adran Adnoddau Dynol ers pum mlynedd.
Mae achrediadau proffesiynol Tom yn cynnwys gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac mae’n Aelod Cyswllt o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
O ganlyniad i’w daith amrywiol gyda The Wallich, mae Tom wedi gweld â’i lygaid ei hun yr amrywiaeth o wasanaethau rhagorol rydyn ni’n eu darparu, yn ogystal â’r ymroddiad a’r gwaith gwych mae ein cydweithwyr ledled yr holl wasanaethau a’r adrannau yng Nghymru yn ei wneud o ddydd i ddydd.
Mae’n bleser gweithio gyda phob person sy’n dod drwy ein drysau, er ei bod yn hynod siomedig bod angen gwasanaeth fel ein un ni o gwbl.