Rydw i’n eithriadol o falch o fod yn rhan o’r elusen hon sy’n gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â digartrefedd ac i roi cyfleoedd i’n cleientiaid.
Ymunodd Natalie â The Wallich ym mis Tachwedd 2016 ac mae’n frwd iawn dros ddarparu atebion i bobl sy’n galluogi ein busnes i ddatblygu a pherfformio, i leihau risgiau ac i fod yn gost-effeithiol.
Yn ei swydd fel Pennaeth Adnoddau Dynol, mae’n goruchwylio Perthnasoedd Gweithwyr, Lles a swyddogaethau Cydnabod a Gwobrwyo yn y tîm Adnoddau Dynol a’r Sefydliad.
Mae gan Natalie radd mewn Gwyddorau Cymdeithasol – sy’n canolbwyntio ar Seicoleg a Chymdeithaseg – a Diploma Ôl-radd mewn Rheoli Adnoddau Dynol gyda CIPD Lefel 7.
Mae ganddi gyfoeth o brofiad ar ôl dilyn gyrfa flaengar fel cyffredinolwr AD yn y sectorau tai a gwirfoddol ers iddi adael y brifysgol yn 2002.
Yn 2005, daeth Natalie yn aelod Siartredig llawn o’r CIPD, sef cymdeithas y gweithwyr proffesiynol AD yn y DU.
Mae pawb yn haeddu cartref a chyfleoedd mewn bywyd.