Mae gweld pobl yn cael eu heithrio a’u gwthio i’r cyrion wedi gwneud i mi deimlo’n anniddig erioed. Mae gweithio i sefydliad, sydd nid yn unig yn gweithio’n galed i sicrhau bod pobl dan anfantais yn cael eu cynnwys, eu bod yn cael llais a’u gwerthfawrogi, ond hefyd yn creu cyfleoedd sy’n galluogi i bobl fyw bywydau ystyrlon a hapus, yn golygu llawer i mi.
Mae Antony yn goruchwylio’r holl faterion gweithredol ar gyfer gwasanaethau amrywiol The Wallich drwy Gymru.
Dechreuodd ei yrfa gyda’r sefydliad yn 2000 fel gweithiwr cymorth yn ein lloches nos yng Nghaerdydd.
Yn fuan wedyn, symudodd Antony i swydd newydd gan ddatblygu’r cyntaf o’n gwasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd ddatblygiad system rheoli achosion cyntaf The Wallich – fu’n fodd i’r sefydliad ddechrau casglu data gwerthfawr.
O ganlyniad, daeth Antony yn Rheolwr Polisi a Pherfformiad, ac yna, yn Bennaeth Busnes, Twf a Gwella.
Mae Antony wedi arwain datblygiad ein fframwaith rheoli perfformiad a safonau gwasanaeth, yn ogystal ag arwain gwaith tendro The Wallich.
Mae Antony wedi llwyddo i sicrhau mwy na 25 o brosiectau, bron i 1000 o unedau cymorth a thua 100 o swyddi newydd i staff. Mae hyn wedi galluogi i The Wallich gyrraedd at a gwella hyd yn oed mwy o fywydau pobl yng Nghymru.
Cyn hyn bu Antony’n Ymddiriedolwr ar gyfer Emmaus De Cymru, Cymorth I Ferched ac ar hyn o bryd mae’n Is-gadeirydd Rough Sleepers Cymru.
Trwy groesawu amrywiaeth, dychymyg a gwytnwch ein cleientiaid, gallwn gyflawni pethau gwych gyda’n gilydd. Dyna pam rwyf wedi mwynhau gweithio i The Wallich am y 19 mlynedd diwethaf.