Darren Pritchard

Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

| 02920 664 464
Cyfarwyddwr Cyllid Gwasanaethau Corfforaethol

Mae’n fraint gweithio i sefydliad sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau unigolion drwy weithredoedd ein staff a’n gwasanaethau arbennig. Mae The Wallich yn sefydliad arbennig iawn i fod yn rhan ohono.

Mae Darren wedi gweithio i The Wallich ers 2014 fel Cyfarwyddwr Cyllid a TG. Yn Ebrill 2018, daeth yn Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, sy’n golygu ei fod hefyd yn goruchwylio swyddogaethau Adnoddau Dynol a Chyfleusterau.  

Fel rhan o’i swydd yn The Wallich rhaid iddo oruchwylio a rheoli holl adnoddau’r elusen a sicrhau ein bod yn cydymffurfio a chadw at ofynion rheoleiddwyr o safbwynt holl faterion y cwmni.

Mae Darren yn arwain y gwaith o adrodd ar ein holl berfformiad ariannol i amryw o fudd-ddeiliaid sy’n ymwneud â’r elusen ac mae’n cynnig cyngor proffesiynol a chyfeiriad strategol ar fesurau rheoli ariannol a phenderfyniadau buddsoddi. Mae hefyd yn gweithredu fel uwch aelod o staff ar rwydweithiau cyllid ar gyfer yr elusen yn allanol.

Cyn gweithio i The Wallich, bu Darren yn gweithio am chwe blynedd mewn cymdeithas tai fawr yng Nghymru. Hefyd mae ganddo brofiad helaeth o weithio ar lefel uwch mewn swyddi cyllid masnachol / diwydiannol i amryw o gyflogwyr yn cynnwys cwmni amlwladol mawr.

Tudalennau cysylltiedig