Hanner Marathon Caerdydd

06 Oct 2018

Mae cael gwared ar ddigartrefedd yn farathon – nid sbrint.  Beth am gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd. 

Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ras 13.1 milltir sy’n adnabyddus am ei gwrs gwastad, cyflym ac eiconig drwy brifddinas Cymru.  Mae wedi tyfu mewn poblogrwydd bob blwyddyn, gan ddenu rhedwyr o bob oed a gallu. 

Yn ras 2018, bu 90 o redwyr yn cynrychioli The Wallich yn Hanner Marathon Caerdydd.  Mae cofrestru gyda ni heddiw yn golygu y byddwch yn ymuno â chyn-redwyr gwych #TîmWallich sydd wedi gwneud rhywbeth i atal digartrefedd yng Nghymru. 

Felly, p’un a ydych yn rhedeg yn eich hanner marathon cyntaf, neu eich bod yn awyddus i ragori ar eich amser personol gorau, ymunwch â ni ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a helpu i wneud gwahaniaeth i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas? 

Pryd y cynhelir Hanner Marathon Caerdydd? 

Cynhelir ras 2019 ddydd Sul 6 Hydref. 

Beth yw cost lle gyda’r elusen? 

Mae AM DDIM.  Y cyfan yr ydym yn ei ofyn i chi ei wneud yw codi o leiaf £200* o nawdd. 

* Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru cyn 21 Ionawr 2019 godi o leiaf £150. 

Sut wyf yn gwneud cais am le gyda The Wallich yn Hanner Marathon Caerdydd? 

Yn syml, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu gyda’ch manylion cofrestru, yn ogystal â phecyn codi arian sy’n cynnwys yr holl gyngor, cefnogaeth a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i ddechrau codi arian 

Cofrestru