Os gallwch godi arian i helpu The Wallich i atal digartrefedd yng Nghymru, mae gennym nifer gyfyngedig o leoedd i elusennau y gallwch chi’r rhedwyr brwd wneud cais amdanynt.
Manteisiwch ar y cyfle gwych hwn i redeg i elusen ac ymuno â chyn-redwyr gwych #TîmWallich sydd wedi gwneud rhywbeth i atal digartrefedd yng Nghymru.
Felly, p’un a ydych yn rhedeg eich ras 10K gyntaf, neu eich bod yn awyddus i ragori ar eich amser personol gorau, ymunwch â ni ar gyfer Ras 10K Casnewydd 2019 a helpu i wneud gwahaniaeth i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Pryd mae Ras 10K Casnewydd?
Cynhelir Marathon a ras 10K 2019 ddydd Sul 5 Mai 2019.
Beth yw cost lle gyda’r elusen?
Mae AM DDIM os byddwch yn addo i godi o leiaf £100 o nawdd.
Sut wyf yn gwneud cais am le gyda The Wallich yn ras 10K Casnewydd?
Yn syml, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu gyda’ch manylion cofrestru, yn ogystal â phecyn codi arian sy’n cynnwys yr holl gyngor, cefnogaeth a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i ddechrau codi arian.
“I mi, dyma yw’r peth lleiaf y gallaf ei wneud. Dyna pam yr wyf yn rhedeg i The Wallich.”
– rhedwr #TîmWallich 2018