Bu Leonne yn byw yn yr un tŷ am 20 mlynedd, ond dechreuodd yfed yn gynyddol. Ar ei phwynt isaf, cafodd ei dal yn gyrru ac yfed ddwywaith a chafodd ei hanfon i garchar am 35 diwrnod – gan adael ei merch oedd yn ei harddegau.
Ar ôl cael ei rhyddhau, aeth Leonne i yfed mwy fyth oherwydd ei bod yn teimlo cywilydd ar ei theulu ac yn fuan aeth yn sâl. Gyda hanes o droseddu a phroblemau camddefnyddio sylweddau roedd angen cymorth ar Leonne. A hithau ar groesffordd, dechreuodd fynd i’r AA am chwe wythnos cyn dechrau rhaglen ddwys i roi’r gorau i yfed alcohol; roedd yn barod i newid.
Pan ddaeth Leonne allan o’r ysbyty roedd yn benderfynol o aros yn sobor, a gyda chymorth The Wallich a’r gwasanaeth prawf, mae wedi llwyddo.
Un diwrnod, des o hyd i botel lawn o fodca. Cefais sgwrs am 15 munud gyda’r botel fodca honno yn dweud mai gen i oedd y pŵer cyn ei thywallt i lawr y sinc.
Ar ôl cryfhau, gweithiodd Leonne ar brosiect Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS) a phrosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE) ; gan droi ei phrofiadau yn rhywbeth positif a mynd i’r afael â’r rhwystr yn sgil ei chofnod troseddol.
Bu mewn gweithdai cyflogadwyedd a meithrin hyder ac ar leoliad gwaith.
Fel rhan o’i phrofiad gwaith mewn dau o brosiectau The Wallich, darganfu Leonne ei bod eisiau gweithio gyda phobl iau yn y dyfodol a throsglwyddo ei phrofiadau.
Bellach mae gan Leonne swydd gyda The Wallich, fel gweithiwr cymorth mewn prosiect pobl ifanc. Mae’n un o’r 19.5% o bobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd ond sydd bellach yn gweithio i’r sefydliad.
Nid yw wedi yfed ers 20 mis.