Lindsay Cordery-Bruce
Prif Weithredwr
Y bobl yr ydym yn eu cynorthwyo yw canolbwynt ein Gwaith.
Ar ôl 20 mlynedd o brofiad, ac arbenigedd penodol ym maes camddefnyddio sylweddau, mae Lindsay bellach yn defnyddio ei phrofiad perthnasol i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.
Mae Lindsay yn gyfrifol am oruchwylio strategaeth The Wallich fel sefydliad; hi yw’r cyswllt tactegol rhwng rôl llywodraethu’r bwrdd a darparu gwasanaeth gweithredol.
Mae’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a darparu cynllun busnes The Wallich, gan sicrhau bod y bobl yr ydym yn eu cynorthwyo wrth graidd popeth a wnawn a bod diwylliant y sefydliad yn union fel y dymunwn iddo fod.
Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel gwirfoddolwr, ar ôl cyfnod o fod yn ddigartref, ac mae’n credu, un diwrnod, y bydd gwirfoddoli’n achub y byd.
Nid swydd yn unig yw hon, ond y rheswm dros fy modolaeth.
- Arweinyddiaeth
- Cysgu allan
- Camddefnyddio sylweddau
- Cyfiawnder troseddol
- Ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth
- Iechyd meddwl
- Anghenion cymhleth
- Estyn allan
- Datrys gwrthdaro
- Systemau, monitro a gwerthuso
- Tendro a gwasanaethau comisiynu
- Atal digartrefedd
- Tai yn Gyntaf
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE’s) / Cymorth yn seiliedig ar drawma
- Amgylchedd sy’n Seiliedig ar Anghenion Seicolegol (PIE)
- Creu incwm
- Ymgysylltu â‘r gymuned
/>
/>