10K Casnewydd

05 May 2019

Mae cael gwared ar ddigartrefedd yn farathon – nid sbrint.  Beth am gymryd rhan ym Marathon Casnewydd i gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd.

Os gallwch godi arian i helpu The Wallich i atal digartrefedd yng Nghymru, mae gennym nifer gyfyngedig o leoedd i elusennau y gallwch chi’r rhedwyr brwd wneud cais amdanynt. 

Manteisiwch ar y cyfle gwych hwn i redeg i elusen ac ymuno â chyn-redwyr gwych #TîmWallich sydd wedi gwneud rhywbeth i atal digartrefedd yng Nghymru. 

Felly, p’un a ydych yn rhedeg eich ras 10K gyntaf, neu eich bod yn awyddus i ragori ar eich amser personol gorau, ymunwch â ni ar gyfer Ras 10K Casnewydd 2019 a helpu i wneud gwahaniaeth i rai o’r bobl mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. 

Pryd mae Ras 10K Casnewydd? 

Cynhelir Marathon a ras 10K 2019 ddydd Sul 5 Mai 2019. 

Beth yw cost lle gyda’r elusen? 

Mae AM DDIM os byddwch yn addo i godi o leiaf £100 o nawdd. 

Sut wyf yn gwneud cais am le gyda The Wallich yn ras 10K Casnewydd? 

Yn syml, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu gyda’ch manylion cofrestru, yn ogystal â phecyn codi arian sy’n cynnwys yr holl gyngor, cefnogaeth a deunyddiau sydd eu hangen arnoch i ddechrau codi arian. 

Cofrestru 

Byddwch yn rhan o #TîmWallich

“I mi, dyma yw’r peth lleiaf y gallaf ei wneud.  Dyna pam yr wyf yn rhedeg i The Wallich.”
– rhedwr #TîmWallich 2018