Gareth Corbin

Pennaeth Busnes, Twf a Gwella

| 02920 668 464
Pennaeth Busnes Twf Gwella

Fel rhan o fy ngwaith, rhaid i mi gyfleu brwdfrydedd ac ymrwymiad ein staff i gyllidwyr presennol a darpar gyllidwyr. Hon yw rhan hawsaf fy ngwaith gan fod brwdfrydedd y sefydliad tuag at ein gwaith yn amlwg yng ngweithredoedd a llwyddiannau ein staff a’n defnyddwyr gwasanaeth.

Mae swydd Gareth yn The Wallich yn cynnwys: rheoli’r broses dendro ar gyfer contractau newydd, cydlynu ceisiadau ar gyfer arian statudol, goruchwylio’r broses o weithredu prosiectau isadeiledd a gweithredu systemau sicrwydd ac ansawdd yr elusen.

Er mai o Stoke-on-Trent y daw Gareth yn wreiddiol, cymerodd at Gymru ar ôl bod yn astudio yn Aberystwyth lle enillodd radd mewn Ffiseg ac yna  mewn Daearyddiaeth a Daeareg Amgylcheddol. Tra oedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sefydlodd orsaf radio’r myfyrwyr a chwaraeodd ran weithgar yng ngwleidyddiaeth a chyfryngau’r fyfyrwyr.

Ar ôl dychwelyd i Stoke, cafodd swydd gyda’r orsaf radio BBC leol, cyn symud i Birmingham i weithio ar radio ranbarthol fel cynhyrchydd cymunedol. Symudodd yn ôl i Gymru i astudio cyfathrebu cyn dechrau ei swydd ddiddorol gyda The Wallich yn 2005.

 

  • Systemau, monitor a gwerthuso
  • Tendro a gwasanaethau comisiynu

Tudalennau cysylltiedig