Llogi lleoliad

Llogwch un o’n ystafelloedd cyfarfod yng Nghaerdydd, a chyfrannu at elusen digartrefedd

Rhaid ystyried llawer o bethau wrth drefnu digwyddiad. Mae llogi lleoliad yn un o’r elfennau pwysicaf o lwyddiant digwyddiad.   

Felly, beth am ddod i Ganolfan y Wallich – sef hen eglwys wedi’i hadnewyddu’n hardd. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II sy’n gartref i waith gweinyddol canolog y Wallich, ac mae’n cynnwys lle agored unigryw ac yn darparu ystafelloedd rhagorol ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau.

Archebwch nawr  

Cysylltwch â ni i wybod pryd maent ar gael, beth yw’r prisiau ac i gael rhagor o wybodaeth.  

  • Ffôn: 029 2066 8464
  • E-bost: bookings@thewallich.net

Pam llogi ystafell yng Nghanolfan y Wallich?  

  • Nid yw’n bell o gwbl o ganol dinas Caerdydd felly gallwch chi a’ch cleientiaid gyrraedd y cyfarfod yn ddidrafferth. Mae modd cyrraedd yn hawdd gyda’r car, trafnidiaeth gyhoeddus neu ar droed.   
  • Technoleg fodern i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn.   
  • Addas ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau corfforaethol a gwirfoddol felly mae gennym le ar eich cyfer boed chi’n chwilio am ystafell ar gyfer hyfforddiant, cyfarfod neu gynhadledd.   
  • Mae modd addasu’r lle ar gyfer eich digwyddiad chi. Boed chi eisiau cynnal digwyddiad ar gyfer 2 berson neu 50 o bobl, mae gennym le ar eich cyfer.   
  • Mynediad i gadeiriau olwyn  
  • Maes parcio   
  • Lifft  
  • System oeri a gwres o dan y llawr fel eich bod chi’n oer braf yn yr haf ac yn gynnes braf yn y gaeaf  
  • System dolen sain ar gael  
  • Prisiau cystadleuol  
  • Cyfraddau hyblyg i elusennau a mudiadau gwirfoddol  
  • Bydd te a choffi ar gael, a gallwch ddewis i ni ddarparu arlwyaeth 
  • Bydd aelod cyfeillgar o’r staff ar gael bob amser i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn drwy gydol y dydd.
  • Elusen ydyn ni. Gallwch chi deimlo’n dda o wybod eich bod chi, wrth archebu, yn helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, yn cadw pobl oddi ar y strydoedd ac yn creu cyfleoedd i bobl.  

Canolfan y Wallich yw’r lle perffaith ar gyfer eich cyfarfodydd, eich cynadleddau a’ch sesiynau hyfforddi. Mae gennym amrywiaeth hyblyg o ystafelloedd ar gael i’w llogi.

I gael rhagor o wybodaeth am ein hystafelloedd, lawrlwythwch y pecyn archebu.