Swyddi The Wallich

Gwnewch wahaniaeth. Dechreuwch eich gyrfa gyda The Wallich heddiw.

Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros helpu pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru? 

Datblygwch eich gyrfa gyda The Wallich, y brif elusen digartrefedd yng Nghymru, heddiw. 

Swyddi gwag diweddaraf

gyda mwy ar ein porth swyddi. 

Edrychwch ar y swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd [LINK] a dechreuwch wneud eich cais heddiw. 

Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig sy’n awyddus i weithio gyda rhai o aelodau mwyaf bregus cymdeithas gan roi ein gwerthoedd ar waith, sef trin eraill gydag Urddas, Goddfyarwch, Parch a Dealltwriaeth.

Ymunwch â’n tîm i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. 

 

 

Pam gweithio i The Wallich?

cyflog cystadleuol 

sefydliad cynhwysfawr a sesiynau cynefino lleol 

mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu 

gwyliau blynyddol hael.  

Edrychwch ar ein Manteision i Staff. [LINK] 

I’ch helpu i wneud eich cais ar gyfer gweithio i The Wallich, rydym wedi paratoi taflen cynghorion ac awgrymiadau. [LINK] 

Rhaid i bob aelod newydd o staff fynd i sesiwn gynefino yng Nghaerdydd. Telir yr holl dreuliau ac mae’n para hyd at bum diwrnod, yn dibynnu ar y swydd. Cynhelir sesiynau cynefino yn ystod wythnos lawn gyntaf bob mis calendr. 

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â gweithio i The Wallich, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 029 2066 8464.