Polisi ansawdd
Elusen ar gyfer pobl ddigartref wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw’r Wallich, sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ddigartref drwy Gymru.
Mae’r rheolwyr a phawb sy’n gweithio yn y Wallich yn ymrwymedig i ddarparu’r lefel uchaf bosibl o wasanaeth i fodloni anghenion ein cwsmeriaid.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ardderchowgrwydd yn ein holl weithgareddau, rydym wedi gweithredu System Reoli Ansawdd ffurfiol, sy’n bodloni anghenion BS EN ISO 9001: 2015.
Amcanion yr elusen sy’n ategu’r System Reoli Ansawdd yw:
- Y dylai anghenion ein cwsmer yn cael eu deall yn llawn.
- Mae adnoddau priodol yn cael eu darparu yn nhermau cyfleusterau a sgiliau perthnasol er mwyn cyflawni anghenion y cwsmer.
- Mae’r elusen yn ymrwymedig i broses o wellhad ansawdd parhaus, ac mae’n gosod amcanion gwella ansawdd, sy’n cael eu hailasesu yn rheolaidd.
- Mae’r cynnydd tuag at yr amcanion ansawdd yn cael ei fonitro.
Mae’r polisi ansawdd a’r amcanion ansawdd a fabwysiadwyd gan reolwyr wedi cael eu gwneud yn wybyddus i’r holl weithwyr. Y rhain fydd y sylfeini y byddwn yn eu defnyddio er mwyn datblygu gwelliannau parhaus yn ein perfformiad ac yn effeithiolrwydd y System Rheoli Ansawdd.
Mae’r Polisi Ansawdd a’r System Reoli yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn rheolaidd, er mwyn ystyried amgylchiadau sy’n newid, anghenion y cwsmer, amcanion a chyfleoedd ar gyfer gwella.
Prif Weithredwr: Linsday Cordery-Bruce

Dyddiad: 13 Mawrth 2019